Cysgliad: helpu i ysgrifennu yn Gymraeg
Pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd sillafu gramadeg Cysill a chasgliad geiriaduron Cysgeir yw Cysgliad.
Cysgliad am Ddim gan Lywodraeth Cymru
Wrthi’n dysgu neu wella dy Gymraeg? Ydy dy blant mewn addysg Gymraeg? Wyt ti’n eu helpu gyda’u gwaith cartref? Neu jyst chwilio am dawelwch meddwl bod pob t c p wedi mynd yn d g b yn y llefydd iawn? Gall Cysgliad helpu. Ac mae ar gael yn rhad ac am ddim.
Awydd rhoi cynnig arni? Mae TRWYDDED RAD AC AM DDIM i Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a phawb sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai ar gael gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Cyflogi mwy na 10?
Mae modd i gwmnïau a sefydliadau sy’n cyflogi mwy na 10 aelod o staff brynu TRWYDDED SEFYDLIADOL flynyddol drwy glicio YMA.
Yn wahanol i’r drwydded am ddim, mae trwydded sefydliadol yn cynnwys cefnogaeth lawn dros y ffôn a thelerau ac amodau sy’n addas ar gyfer anghenion sefydliadau.
Dyma dabl o fanteision y Drwydded Sefydliadol i sefydliadau:
Unigolion ac ysgolion; cwmnïau a sefydliadau sy’n cyflogi 10 neu lai |
Cwmnïau, sefydliadau, prifysgolion sy’n cyflogi mwy na 10 |
|
---|---|---|
Holl feddalwedd Cysgliad | ✔ | ✔ |
Bar offer Microsoft Word ac Outlook | ✔ | ✔ |
Bar offer LibreOffice | ✔ | ✔ |
Diweddariadau | ✔* | ✔** |
Lefel cymorth | Cymorth drwy ryngwyneb sgwrsio ar y wefan | Cefnogaeth lawn drwy ffôn a thros Teams/Skype/Hangouts i adran TG y cwmni/sefydliad yn ystod oriau gwaith |
Rhaglen osod | Rhaglen osod sylfaenol | Rhaglen osod ar gyfer dosbarthu i beiriannau gweithiwr dros rwydwaith, ynghyd â thystysgrif llofnodi digidol |
Natur y drwydded | Cytundeb trwyddedu meddalwedd sylfaenol | Cytundeb trwyddedu meddalwedd corfforaethol |
Cost y drwydded | Am Ddim | Trwydded flynyddol yn ôl maint y cwmni neu’r sefydliad. Cysylltwch a’r swyddfa am ragor o fanylion*** |
* Tra pery cynllun Cysgliad am ddim (yn ddibynnol ar grant Llywodraeth)
** Yn gyson tra pery’r drwydded
*** Cysylltwch â’r swyddfa (+44 (0)1248 383293 neu cysgliad@bangor.ac.uk) am ragor o fanylion