Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg
Mae’r gwirydd sillafu Cysill yn adnabod gwallau teipio a chamsillafu, gan dynnu sylw atyn nhw a chynnig cywiriadau.
Mae’r gwirydd gramadeg yn gallu cywiro camdreiglo a chamgymeriadau gramadegol, gan roi’r rheswm pam mae’r gwall yn cael ei ystyried yn anghywir.
Gwirio testunau o fewn offer prosesu geiriau
Mae’r rhaglen yn gweithio gyda rhaglenni prosesu geiriau fel Microsoft Word a LibreOffice ar Windows drwy bwyso’r botwm Gwirio ar y bar offer.
Gwirio testunau ym mhob man arall…
Mae Cysill yn gallu gweithio’n annibynnol hefyd er mwyn gallu gwirio testunau o fewn unrhyw feddalwedd arall ar eich cyfrifiadur Windows e.e. porwr gwe, ffurflenni, golygydd testun.
Er mwyn gwneud hyn
- amlygwch unrhyw destun rydych angen ei wirio
- pwyswch Ctrl, Alt a W ar yr un pryd
Bydd y testun yn ymddangos yn Cysill ac yn cael ei wirio. Os yw’r rhaglen wreiddiol yn caniatáu golygu testun, bydd Cysill yn gosod y testun wedi ei gywiro yn ôl yn ei safle gwreiddiol ar ôl gorffen gwirio.
Thesawrws
Mae Cysill hefyd yn cynnwys thesawrws sy’n eich helpu i ddod o hyd i eiriau gwahanol sydd ag ystyr tebyg i’w gilydd, er mwyn gwella’ch geirfa ac amrywio’ch arddull.