Cysgliad i'r Mac 1.0
Llwytho i Lawr
Cyn llwytho Cysgliad i'r Mac 1.0 i lawr, darllenwch y cytundeb trwyddedu isod yn ofalus. Os ydych chi'n derbyn amodau'r drwydded, cliciwch ar y botwm 'Derbyn' a dilynwch y cyfarwyddiadau llwytho.
Trwydded Cysgliad i'r Mac
PWYSIG
Cytundeb cyfreithiol yw hwn rhyngoch chi a Phrifysgol Bangor ('y Brifysgol') yw hwn. Peidiwch â llwytho rhaglen 'Cysgliad Apple Mac OS X' oni fyddwch wedi darllen y cytundeb hwn, ac yn derbyn ei delerau.
1 Diffiniadau
Mae 'Meddalwedd' yn golygu meddalwedd Cysgliad ar gyfer Apple Mac OS X sy’n cynnwys Cysill a Cysgeir ac sy'n tarddu o'r pecyn a lwythir i lawr o wefan y Brifysgol neu wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
2 Defnydd Teg
Caniateir i chi llwytho'r Feddalwedd i lawr a'i gosod ar unrhyw nifer o gyfrifiaduron heb unrhyw rwystr a hynny yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir gwerthu Cysgliad Apple Mac OS X na’i atgynhyrchu, copïo na’i gyhoeddi er mwyn ei werthu mewn unrhyw gyfrwng neu fodd.
3 Gwarant
Rhyddheir Cysgliad Apple Mac OS X fel y mae, heb gefnogaeth dechnegol o unrhyw fath gan y Brifysgol.
Ni chynhwysir unrhyw warant sy'n benodol neu wedi ei hawgrymu ar gyfer ansawdd neu ffitrwydd at ddiben. Ni fydd y warant yn gymwys os achosir methiant yn y Feddalwedd drwy ddamwain, camddefnyddio neu gam-drin.
4 Cyfyngu Atebolrwydd
Ni fydd y Brifysgol yn atebol i chi am unrhyw iawndal arbennig, ariannol, ôl-ddilynol, damweiniol nac uniongyrchol.
5 Defnyddwyr
Os ydych yn gwneud y cytundeb hwn fel 'defnyddiwr' fel y'i diffinnir yn y Ddeddf Contractau Annheg, 1977, ni fydd unrhyw beth yn y cytundeb hwn yn effeithio ar derfyn eich hawliau statudol.
6 Toriad
Os caiff unrhyw ddarpariaeth yn y cytundeb hwn ei ddatgan yn annilys gan lys o awdurdodaeth gymwys, ni fydd yn effeithio ar y darpariaethau eraill.
7 Cyfraith Reoli
Caiff y cytundeb hwn ei reoli gan Gyfraith Cymru a Lloegr ac yr ydych chi a’r Brifysgol yn cytuno i ildio i awdurdodaeth ei llysoedd.
Os ydych yn cytuno â’r amodau hyn, rhowch glic ar y botwm ‘Derbyn’ isod.
<< Yn ôl i'r dudalen flaenorol
Hawlfraint Cysgliad a'r dudalen hon - Canolfan Bedwyr © 2007
Hawlfraint Pecyn Rhyngwyneb Cysgliad i'r Mac - Bwrdd yr Iaith Gymraeg © 2007